Skip to main content
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. We welcome calls in Welsh.

Clirio coed peryglus ar yr M4 rhwng Cyffordd 37 (Cyffordd Pyle) a Chyffordd 42 (Cyffordd Earlswood) (y ddau gyfeiriad)

Dyddiad Cychwyn: 25/01/2026 | Dyddiad Gorffen: 01/04/2026

 

Bydd gwaith hanfodol i fynd i’r afael â choed peryglus ger yr M4 rhwng Cyffordd 37 (Cyffordd Pyle) a Chyffordd 42 (Cyffordd Earlswood) yn dechrau ar 25/01/2026 am gyfnod o 3 mis.

Bydd y gwaith yn cael ei wneud yn ystod y nos rhwng 20:00 a 06:00, gan ddefnyddio cau’r llain galed a chau lonydd yn bennaf; fodd bynnag, bydd angen cau rhai ffyrdd ymuno ac ymadael yn llwyr er mwyn darparu’r parthau diogelwch angenrheidiol. Bydd gwyriadau wedi’u harwyddo yn cael eu rhoi ar waith yn ystod y cau llawn.

Manylion y cau:

  • M4 Cyffordd 38 (ffyrdd ymuno ac ymadael) – 04/02/2026 i 06/02/2026
  • M4 Cyffordd 38 (ffyrdd ymuno ac ymadael) – 08/02/2026 i 12/02/2026
  • M4 Cyffordd 37 (ffordd ymuno) – 24/02/2026 i 27/02/2026
  • M4 Cyffordd 38 (ffordd ymadael) – 16/03/2026 i 20/03/2026
  • M4 Cyffordd 38 (ffordd ymadael) – 22/03/2026 i 27/03/2026
  • M4 Cyffordd 39 (ffordd ymuno) – 29/03/2026 i 01/04/2026

Bydd lonydd ar gau rhwng C40 a C42. Gall y gwaith hwn arwain ar lefel uwch o sŵn a/ neu amharu ar draffig yn ystod yr amser hyn - ymddiheurwn ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra a achosir.

Mi fydd arwyddion yn ei le yn ystod yr gwyriadau. 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thraffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy X a Facebook.