Dyddiad Cychwyn: 28/01/2026 | Dyddiad Gorffen: 06/02/2026
Mae’r gwaith yn cynnwys plaenio’r wyneb presennol i ffwrdd, addasu caeadau tyllau archwilio a gratiau cwteri, gosod haen wyneb asffalt newydd, ail-osod stydiau ffordd, a gwneud marciau newydd ar y ffordd.
Bydd angen cau'r A458 yn llwyr o Treberfedd i Swydd Amwythig
- 28/01/2026 - 06/02/2026 (19:00 - 06:00). Dydd Llun i Gwener yn unig.
Bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio ar hyd y gwyriad wedi’i arwyddo tua’r gorllewin ar hyd yr A458 i’r A483 yng nghylchfan Buttington, yna tua’r gogledd ar hyd yr A483 i Gylchfan Mile End. Yna tua’r dwyrain ar hyd yr A5 i gylchfan Churncote. Wedi hynny tua’r gorllewin ar hyd yr A458 i’r pwynt cau, ac i’r gwrthwyneb.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thraffig Cymru ar 0300 123 1213 neu drwy Twitter @TraffigCymruG